Ni fu erioed amser gwell neu bwysicach i gefnogi lles
ariannol eich staff.
Mae’n hawdd sefydlu cynllun
cyflogres ar gyfer eich sefydliad.
Pan fyddwch yn cysylltu â Moneyworks Cymru
byddwn yn eich tywys trwy’r broses o sefydlu
cynllun cyflogres ac yn darparu’r holl wybodaeth
sydd ei hangen arnoch i’w hymgorffori yn eich
pecyn lles staff.
Mae’n hawdd sefydlu’ch cyfrif
cynilo Moneyworks Cymru neu
wneud cais am fenthyciad.
P’un a ydych am roi arian o’r neilltu ar gyfer achlysur arbennig, cychwyn cronfa diwrnod glawog neu angen benthyciad, rydym yma i helpu. Daw taliadau yn uniongyrchol o’ch cyflog, felly telir eich benthyciad ac mae’r cynilion yn tyfu’n awtomatig!
Mae bod yn rhan o gynllun cyflogres o fudd i staff a chyflogwyr.
Gwyliwch eich cynilion yn tyfu gyda
throsglwyddiadau awtomatig yn
uniongyrchol o’ch cyflog i’ch cyfrif
cynilo.
Arian yw prif achos straen ymhlith
pobl yn y DU bellach, yn uwch nag
iechyd, perthnasoedd neu yrfa, yn ôl
y Fforwm Cenedlaethol ar gyfer
Iechyd a Llesiant yn y Gwaith.
Bellach arian yw achos mwyaf
straen ymysg pobl yn y DU, yn uwch
nag iechyd, perthnasoedd neu yrfa,
yn ôl y Fforwm Cenedlaethol dros
Iechyd a Lles yn y Gwaith.
Mae un o bob tri gweithiwr rhwng
25 a 34 oed yn nodi bod pryderon
ariannol wedi effeithio ar eu gwaith
yn ôl y CIPD.
Oeddech chi’n gwybod:
Mae partneriaeth â Moneyworks Cymru yn rhoi mynediad i staff at gyllid teg a moesegol, yn adeiladu eu cynilion ac o fudd i’r gymuned
ehangach.
Arbedodd benthyca gydag undeb credyd amcangyfrif o £16m i bobl yng Nghymru o gymharu â defnyddio darparwr cost uchel yn 2019. Yn y cyfamser dywedodd 72% o aelodau undeb credyd a arolygwyd eu bod wedi gwario’r arian a fenthycwyd ganddynt yn eu hardal leol, gydag 8% arall yn ei wario. mewn mannau eraill yng Nghymru – yn helpu i roi hwb i’r economi.