Cartrefi Cymru: Cefnogi staff i ddyfodol ariannol mwy disglair

A nurse at Cartrefi Cymru helping an elderly lady to walk.

Mae Cartrefi Cymru yn elusen a sefydlwyd i sicrhau bod pobl ag anableddau dysgu yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i fyw’n dda yn eu cymuned leol.

Gweithlu medrus

Mae staff yr elusen yn gweithio yng nghartrefi pobl a chymunedau lleol, gan hyrwyddo annibyniaeth, cynhwysiant cymdeithasol a diogelwch.

Sefydlodd Cartrefi Cymru bartneriaeth gyflogres gydag Undeb Credyd Dragonsavers yn 2014 fel rhan o’i ymrwymiad i les ariannol gweithwyr.

Mae’r cynllun didynnu cyflogres yn helpu staff i adeiladu pot cynilo yn uniongyrchol o’u cyflog, i helpu i ddarparu byffer ariannol, a chael gafael ar fenthyciadau fforddiadwy pan fydd eu hangen arnynt.

Gwneir staff hefyd yn ymwybodol o fanteision cynilo’n rheolaidd i greu rhwyd ddiogelwch ariannol gryfach, ar gyfer adegau o angen fel bil annisgwyl, neu’r angen i wneud atgyweiriadau hanfodol i’w car.

Y buddion

Er mwyn helpu staff i elwa ar ystod o gynlluniau cynilo a benthyciadau sydd ar gael, mae Cartrefi Cymru yn hyrwyddo’r cynllun trwy:

  • negeseuon slip cyflog;
  • taflenni ar gael i’r holl staff;
  • e-byst at yr holl staff yn egluro cynilion a benthyciadau cyflogres;
  • erthyglau ar fewnrwyd y staff.

Yr adborth

Mae’r adborth gan staff wedi bod yn gadarnhaol iawn gyda gweithwyr yn ymgysylltu’n weithredol â Dragonsavers ynghylch y cynlluniau didynnu cyflogres a benthyciadau yn y gweithle sydd wedi eu helpu i wella eu lles ariannol.

Dywedodd Denise Hall, Swyddog Cyflogres Cartrefi Cymru, fod y cynllun Moneyworks yn helpu i gefnogi staff i ddyfodol ariannol mwy disglair: “Ein pwrpas yw amddiffyn pobl agored i niwed yn y gymuned ac yn yr un modd rydym am sicrhau bod ein staff ein hunain yn teimlo eu bod yn cael eu gwarchod a’u cefnogi, a dyna pam rydym yn annog. iddynt ddod yn ddiogel yn ariannol.”