Gyda mwy na 1,500 o weithwyr wedi ymuno â chynllun didynnu cyflogres Moneyworks Wales, mae Cyngor Caerdydd wedi dangos arweiniad wrth wella lles ariannol staff.
Ymrwymiad lles
Mae aelodaeth undeb credyd yn rhan gref o ddiwylliant y Cyngor, gan adlewyrchu ei ymrwymiad i les ariannol staff ac ymrwymiad ehangach i fynd i’r afael â thlodi a benthyca llog uchel.
Mae Cyngor Caerdydd yn hyrwyddo lles ariannol staff gyda:
- negeseuon slip cyflog yn annog aelodaeth undeb credyd;
- nodweddion a chysylltiadau ar fewnrwyd y Cyngor;
- nodweddion ar ap staff y Cyngor;
- cynnal hyrwyddiadau rheolaidd ar gyfer staff y Cyngor.
Mae Cyngor Caerdydd wedi cynnwys cynllun cyflogres Moneyworks Cymru Undeb Credyd Caerdydd a’r Fro yn ei strategaeth gaffael gyfrifol, gan annog cyflogwyr eraill i’w gynnig i’w staff.
Wedi ennill gwobrau!
Ym mis Tachwedd 2019 dyfarnwyd statws Dinas Cyflog Byw i Gaerdydd, ail ddinas y DU a’r Brifddinas gyntaf i wneud hynny, am ei gynllun gweithredu tair blynedd i gael y Cyflog Byw Go Iawn i fwy o gyflogwyr achrededig a mwy o weithlu Caerdydd.
Mae Cyngor Caerdydd hefyd yn rhagweithiol wrth annog cyflogwyr eraill i ychwanegu Moneyworks Cymru at eu pecynnau buddion staff. Mae hyn yn cynnwys ychwanegu’r cynllun cyflogres at ei strategaeth gaffael sy’n gymdeithasol gyfrifol i annog eu contractwyr i gynnig cynllun Moneyworks Wales.